Bioleg Rhan 1 TGAU

Prawf ar bioleg yw hwn. Bydd yn profi chi ar bioleg TGAU ar y testun Amrywiaeth a Geneteg. Rhowch gynnig arni, i weld os ydych chi efo'r ymennydd i wneud yn dda ynddi. Ffordd wych i adolygu!

Oes gennych chi y gallu i wneud yn dda yn y prawf yma? Ydych chi yn y gwyddonwr nesaf enwog bydd y byd yn gweld? Y Charles Darwin modern? Cymerwch y prawf yma i ddarganfod yr atebion i'r cwestiynnau yma!

Created by: Elen
  1. Beth yw ystyr y term poblogaeth?
  2. Pa un o'r canlynol nad yw planhigion yn cystadlu amdano?
  3. Pam mae eirth gwyn yn wyn?
  4. Beth yw'r rheswm mwyaf tebygol pam mae gan anifeiliaid mewn hinsoddau poeth glustiau mwy o faint nag anifeiliaid tebyg mewn hinsoddau oer?
  5. Beth yw'r rheswm mwyaf tebygol pam mae gan y gwahanol fathau o wenyn streipiau du a melyn ar eu cyrff?
  6. Ble mae cromosomau'n bresennol mewn corffgell?
  7. Beth sy'n cludo gwybodaeth enetig?
  8. Mewn bodau dynol, beth mae gametau gwryw yn cael eu galw?
  9. Yn ystod atgenhedlu, pryd mae ffrwythloniad yn digwydd?
  10. Wrth sôn am atgenhedlu rhywiol, pa osodiad sy'n gywir?
  11. Wrth sôn am atgynhyrchu anrhywiol, pa osodiad sy'n gywir?
  12. Beth yw un o fanteision cymryd toriadau o blanhigion?
  13. Pa dechneg glonio sy'n addas i arddwyr cyffredin ei defnyddio?
  14. Yn gyffredinol, wrth ddefnyddio ymasiad celloedd i glonio anifail, o ble mae'r cnewyllyn cyfrannol yn gallu dod?
  15. Pa fath o organebau sy'n gallu cael eu peiriannu'n enetig?
  16. Mae mitosis yn cynhyrchu epilgelloedd sydd â:
  17. Sawl cell sy'n cael ei chynhyrchu o ganlyniad i fitosis?
  18. Sawl pâr o gromosomau sydd gan gorffgell ddynol?
  19. Wrth sôn am gromosomau rhyw, pa osodiad sy'n gywir?
  20. O'i gymharu â chorffgell, mae gamet yn cynnwys:
  21. Yn ystod meiosis:
  22. Yn ôl damcaniaeth esblygiad Darwin, sut mae rhywogaethau newydd yn esblygu?
  23. Pa unigolion sy'n fwyaf tebygol o oroesi i allu atgenhedlu?
  24. Beth sy'n debygol o ddigwydd i unigolyn sydd wedi ymaddasu'n wael i'w amgylchedd?
  25. Pa fath o amrywiad sy'n cael ei etifeddu?
  26. Pam mae gennym gofnod esblygiadol da ar gyfer y ceffyl?
  27. Pam mae gwyfynod brith gwyn yn debygol o fod yn fwy cyffredin na rhai du mewn ardaloedd gwledig?
  28. Pa un o'r canlynol nad yw'n debygol o wneud i rywogaeth ddiflannu o'r Ddaear?
  29. Mewn therapi genynnau, un o'r camau yw:
  30. Yr enw ar gelloedd anarbenigol embryo yw:

Remember to rate this quiz on the next page!
Rating helps us to know which quizzes are good and which are bad.

What is GotoQuiz? A better kind of quiz site: no pop-ups, no registration requirements, just high-quality quizzes that you can create and share on your social network. Have a look around and see what we're about.